12 A'r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
13 A'r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a'r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.
14 Ac efe a'u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.
15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;
16 Heb law pen‐swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.
17 A'r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ.
18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a'r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu'r tŷ.