7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.
8 A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd.
9 Fy ngweision a'u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a'u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i'm teulu i.
10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad.
11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i'w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn.
12 A'r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
13 A'r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a'r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.