10 Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
11 A daeth gair yr Arglwydd at Solomon, gan ddywedyd,
12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:
13 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.
14 Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a'i gorffennodd.
15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.
16 Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o'r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i'r gafell, i'r cysegr sancteiddiolaf.