15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.
16 Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o'r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i'r gafell, i'r cysegr sancteiddiolaf.
17 A'r tŷ, sef y deml o'i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd.
18 A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg.
19 A'r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd.
20 A'r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a'i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.
21 Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a'u gwisgodd ag aur.