63 A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i'r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd.
64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd.
65 A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr Arglwydd ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg.
66 A'r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i'w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.