1 A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur;
2 Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon.
3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a'th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a'm calon fydd yno yn wastadol.
4 Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a'm barnedigaethau:
5 Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel.