15 A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a'i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser.
16 Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a'i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a'i rhoddasai hi yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon.
17 A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf,
18 A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad,
19 A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a'r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth.
20 Yr holl bobl y rhai a adawyd o'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, a'r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel;
21 Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn.