22 Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a'i wŷr meirch.
23 Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.
24 A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i'w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.
25 A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i'r Arglwydd: ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd. Felly efe a orffennodd y tŷ.
26 A'r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad Edom.
27 A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon.
28 A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a'u dygasant at y brenin Solomon.