4 Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a'm barnedigaethau:
5 Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel.
6 Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a'ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a'm deddfau, y rhai a roddais o'ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:
7 Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a'r tŷ hwn a gysegrais i'm henw, a fwriaf allan o'm golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd:
8 A'r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r wlad hon, ac i'r tŷ yma?
9 A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a'u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
10 Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin,