9 A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a'u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
10 Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin,
11 (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea.
12 A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.
13 Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a'u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn.
14 A Hiram a anfonodd i'r brenin chwech ugain talent o aur.
15 A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a'i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser.