13 Ond golched y perfedd a'r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
14 Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i'r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.
15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.
16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â'i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du'r dwyrain, i'r lle y byddo y lludw.
17 Hollted ef, a'i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.