Lefiticus 20 BWM

1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o'r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o'i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a'i llabyddiant ef â cherrig.

3 A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.

4 Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef:

5 Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.

6 A'r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

7 Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

8 Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd.

9 Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.

10 A'r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig.

11 A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

12 Am y gŵr a orweddo ynghyd â'i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

13 A'r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

14 Y gŵr a gymero wraig a'i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.

15 A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.

16 A'r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a'r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

17 A'r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.

18 A'r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o'i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.

19 Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.

20 A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi‐blant.

21 A'r gŵr a gymero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di‐blant fyddant.

22 Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo'r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.

23 Ac na rodiwch yn neddfau'r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o'ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.

24 Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a'i rhoddaf i chwi i'w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill.

25 Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a'r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a'r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i'w gyfrif yn aflan.

26 Byddwch chwithau sanctaidd i mi: oherwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.

27 Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27