Lefiticus 15 BWM

1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

2 Llefarwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt, Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o'i gnawd, a fydd aflan oblegid ei ddiferlif.

3 A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif: os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif, neu ymatal o'i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif; ei aflendid ef yw hyn.

4 Pob gwely y gorweddo ynddo un diferllyd, a fydd aflan; ac aflan fydd pob peth yr eisteddo efe arno.

5 A'r neb a gyffyrddo â'i wely ef, golched ei ddillad, ac ymdroched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

6 A'r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

7 A'r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

8 A phan boero'r diferllyd ar un glân, golched hwnnw ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

9 Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo'r diferllyd ynddo.

10 A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano, bydd aflan hyd yr hwyr: a'r hwn a'u dyco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

11 A phwy bynnag y cyffyrddo'r diferllyd ag ef, heb olchi ei ddwylo mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

12 A'r llestr pridd y cyffyrddo'r diferllyd ag ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.

13 A phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i'w lanhau, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog, a glân fydd.

14 A'r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a deued gerbron yr Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i'r offeiriad.

15 Ac offrymed yr offeiriad hwynt, un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei ddiferlif, gerbron yr Arglwydd.

16 Ac os gŵr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

17 A phob dilledyn, a phob croen, y byddo disgyniad had arno, a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.

18 A'r wraig y cysgo gŵr mewn disgyniad had gyda hi; ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau.

19 A phan fyddo gwraig â diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth: a phwy bynnag a gyffyrddo â hi, bydd aflan hyd yr hwyr.

20 A'r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth, fydd aflan; a'r hyn oll yr eisteddo hi arno, a fydd aflan.

21 A phwy bynnag a gyffyrddo â'i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

22 A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

23 Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan.

24 Ond os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi, fel y byddo o'i misglwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.

25 A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.

26 Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei misglwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei misglwyf hi.

27 A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd; a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

28 Ac os glanheir hi o'i diferlif; yna cyfrifed iddi saith niwrnod: ac wedi hynny glân fydd.

29 A'r wythfed dydd cymered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

30 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr Arglwydd, am ddiferlif ei haflendid.

31 Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.

32 Dyma gyfraith yr hwn y byddo'r diferlif arno, a'r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had, fel y byddo aflan o'u herwydd;

33 A'r glaf o'i misglwyf, a'r neb y byddo'r diferlif arno, o wryw, ac o fenyw, ac i'r gŵr a orweddo ynghyd â'r hon a fyddo aflan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27