1 Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
2 Fy Sabothau i a gedwch, a'm cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.
3 Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a'm gorchmynion a gedwch, a'u gwneuthur hwynt;
4 Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.
5 A'ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a'ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel.
6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i'r bwystfil niweidiol ddarfod o'r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o'ch blaen ar y cleddyf.
8 A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a'ch gelynion a syrth o'ch blaen ar y cleddyf.
9 A mi a edrychaf amdanoch, ac a'ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a'ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.
10 A'r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.
11 Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.
12 A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
13 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
14 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn;
15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod;
16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a'r cryd poeth, y rhai a wna i'r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a'i bwyty:
17 Ac a osodaf fy wyneb i'ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a'ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
18 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau.
19 A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a'ch tir chwi fel pres:
20 A'ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21 Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.
22 Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleiha chwi; a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23 Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
24 Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a'ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.
25 A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26 A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni'ch digonir chwi.
27 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;
28 Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a'ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau.
29 A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch.
30 Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a'm henaid a'ch ffieiddia chwi.
31 A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
32 A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o'i herwydd.
33 Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a'ch tir fydd ddiffeithwch, a'ch dinasoedd yn anghyfannedd.
34 Yna y mwynha'r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau.
35 Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.
36 A'r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a'u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
37 A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.
38 Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a'ch bwyty.
39 A'r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant.
40 Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â'u camwedd yr hwn a wnaethant i'm herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi;
41 A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a'u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a'u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth:
42 Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a'm cyfamod hefyd ag Isaac, a'm cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd.
43 A'r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o'u henaid fy neddfau.
44 Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i'w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt.
45 Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.
46 Dyma'r deddfau, a'r barnedigaethau, a'r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.