1 Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl‐darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt.
2 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a'u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr Arglwydd.
3 A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma'r hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y'm gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.
4 A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o'r gwersyll.
5 A nesáu a wnaethant, a'u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o'r gwersyll; fel y llefarasai Moses.
6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd.
7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.
8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd,
9 Gwin a diod gadarn nac yf di, na'th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn:
10 A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân;
11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.
12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o'i feibion ef, Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd sancteiddiolaf yw.
13 A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y'm gorchmynnwyd.
14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a'r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a'th feibion, a'th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i'th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel.
15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a'r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o'r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i'th feibion gyda thi, yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,
17 Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a'i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr Arglwydd?
18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchmynnais.
19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a'u poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd?
20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.