3 Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o'i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd.
4 A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a'i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto.
5 Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
6 A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.
7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.
8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a'r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.
9 Ond ei berfedd a'i draed a ylch efe mewn dwfr: a'r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.