5 Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
6 A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.
7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.
8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a'r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.
9 Ond ei berfedd a'i draed a ylch efe mewn dwfr: a'r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
10 Ac os o'r praidd, sef o'r defaid, neu o'r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl.
11 A lladded ef gerbron yr Arglwydd, o du'r gogledd i'r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.