1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan.
3 A'r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.
4 A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i'r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.