1 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
2 Dyn (pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd, neu gramen, neu ddisgleirder, a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla'r clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion ef yr offeiriaid.
3 A'r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a'r offeiriad a'i hedrych, ac a'i barn yn aflan.
4 Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na'r croen, a'i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.