11 Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan.
12 Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o'r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o'i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho'r offeiriad;
13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw.
14 A'r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.
15 Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw.
16 Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad:
17 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.