13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw.
14 A'r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.
15 Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw.
16 Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad:
17 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.
18 Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a'i iacháu;
19 A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a'i ddangos i'r offeiriad: