20 Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na'r croen, a'i flewyn wedi troi yn wyn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o'r cornwyd.
21 Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.
22 Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe.
23 Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.
24 Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen, a bod i'r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wyn;
25 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is i'w weled na'r croen; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o'r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.
26 Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.