4 Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na'r croen, a'i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.
5 A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o'r pla yn y croen; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith.
6 Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o'r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: cramen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd.
7 Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen, wedi i'r offeiriad ei weled, i'w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i'r offeiriad.
8 Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o'r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.
9 Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad;
10 Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi'r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd;