8 Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o'r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.
9 Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad;
10 Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi'r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd;
11 Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan.
12 Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o'r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o'i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho'r offeiriad;
13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw.
14 A'r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.