1 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at yr offeiriad:
3 A'r offeiriad a ddaw allan o'r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla'r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus;
4 Yna gorchmynned yr offeiriad i'r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.