10 A'r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew.
11 A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12 A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a'r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
13 A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a'r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo'r offeiriad, yn gystal â'r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw.
14 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef.
15 A chymered yr offeiriad o'r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:
16 A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o'r olew â'i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd.