16 A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o'r olew â'i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd.
17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.
18 A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd.
19 Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm.
20 Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a'r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd.
21 Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i'w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew;
22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm.