21 Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i'w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew;
22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm.
23 A dyged hwynt yr wythfed dydd i'w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd.
24 A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
25 A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.
26 A thywallted yr offeiriad o'r olew ar gledr ei law aswy ei hun:
27 Ac â'i fys deau taenelled yr offeiriad o'r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd.