3 A'r offeiriad a ddaw allan o'r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla'r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus;
4 Yna gorchmynned yr offeiriad i'r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.
5 A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.
6 A chymered efe yr aderyn byw, a'r coed cedr, a'r ysgarlad, a'r isop, a throched hwynt a'r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.
7 A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.
8 A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i'r gwersyll, a thriged o'r tu allan i'w babell saith niwrnod.
9 A'r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a'i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.