47 A'r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad.
48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo'r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla.
49 A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop.
50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.
51 A chymered y coed cedr, a'r isop, a'r ysgarlad, a'r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith.
52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegog, ac â'r aderyn byw, ac â'r coed cedr, ac â'r isop, ac â'r ysgarlad.
53 A gollynged yr aderyn byw allan o'r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.