52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegog, ac â'r aderyn byw, ac â'r coed cedr, ac â'r isop, ac â'r ysgarlad.
53 A gollynged yr aderyn byw allan o'r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.
54 Dyma gyfraith am bob pla'r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,
55 Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ,
56 Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb;
57 I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.