12 A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:
13 A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:
14 A chymered o waed y bustach, a thaenelled â'i fys ar y drugareddfa tua'r dwyrain: a saith waith y taenella efe o'r gwaed â'i fys o flaen y drugareddfa.
15 Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â'i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:
16 A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt.
17 Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel.
18 Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.