26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i'r gwersyll.
27 A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i'r tu allan i'r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a'u cnawd, a'u biswail, yn tân.
28 A golched yr hwn a'u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i'r gwersyll.
29 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.
30 Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i'ch glanhau o'ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd.
31 Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.
32 A'r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a'r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna'r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd: