29 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.
30 Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i'ch glanhau o'ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd.
31 Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.
32 A'r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a'r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna'r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd:
33 Ac a lanha'r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a'r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa.
34 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.