3 A hyn y daw Aaron i'r cysegr: â bustach ieuanc yn bech‐aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm.
4 Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.
5 A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.
6 Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.
7 A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8 A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a'r coelbren arall dros y bwch dihangol.
9 A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth.