5 A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.
6 Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.
7 A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8 A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a'r coelbren arall dros y bwch dihangol.
9 A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth.
10 A'r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod ag ef, ac i'w ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.
11 A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun: