12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi.
13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi.
14 Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi.
15 Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi.
16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw.
17 Na noetha noethni gwraig a'i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn.
18 Hefyd na chymer wraig ynghyd â'i chwaer, i'w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda'r llall, yn ei byw hi.