18 Hefyd na chymer wraig ynghyd â'i chwaer, i'w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda'r llall, yn ei byw hi.
19 Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.
20 Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o'i phlegid.
21 Ac na ddod o'th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.
22 Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny.
23 Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.
24 Nac ymhalogwch yn yr un o'r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o'ch blaen chwi: