23 Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.
24 Nac ymhalogwch yn yr un o'r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o'ch blaen chwi:
25 A'r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â'i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo'r wlad ei thrigolion.
26 Ond cedwch chwi fy neddfau a'm barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; na'r priodor, na'r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:
27 (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o'ch blaen, a'r wlad a halogwyd;)
28 Fel na chwydo'r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o'ch blaen.
29 Canys pwy bynnag a wnêl ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a'u gwnelo o blith eu pobl.