26 Ond cedwch chwi fy neddfau a'm barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; na'r priodor, na'r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:
27 (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o'ch blaen, a'r wlad a halogwyd;)
28 Fel na chwydo'r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o'ch blaen.
29 Canys pwy bynnag a wnêl ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a'u gwnelo o blith eu pobl.
30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o'r deddfau ffiaidd a wnaed o'ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.