1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3 Ofnwch bob un ei fam, a'i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
4 Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5 A phan aberthoch hedd‐aberth i'r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.
6 Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.