10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11 Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12 Ac na thyngwch i'm henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13 Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14 Na felltiga'r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15 Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16 Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.