20 A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.
21 A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i'r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd.
22 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â'r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.
23 A phan ddeloch i'r tir, a phlannu ohonoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi: na fwytaer ohono.
24 A'r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef.
25 A'r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
26 Na fwytewch ddim ynghyd â'i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.