25 A'r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
26 Na fwytewch ddim ynghyd â'i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.
27 Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf.
28 Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.
29 Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio'r tir, a llenwi'r wlad o ysgelerder.
30 Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr Arglwydd ydwyf fi.
31 Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â'r brudwyr, i ymhalogi o'u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.