3 Ofnwch bob un ei fam, a'i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
4 Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5 A phan aberthoch hedd‐aberth i'r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.
6 Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.
7 Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy.
8 A'r hwn a'i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a'r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.
9 A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf.