32 Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33 A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef.
34 Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35 Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur.
36 Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft.
37 Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.