1 Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i'r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.
2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o'i beilliaid, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.
3 A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i'w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
4 Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5 Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew.
6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7 Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.