13 Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.
14 Ac os offrymi i'r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf.
15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw.
16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus: offrwm tanllyd i'r Arglwydd yw.