6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7 Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.
8 A dwg i'r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.
9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
10 A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i'r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r Arglwydd.
12 Offrymwch i'r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.