9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
10 A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i'r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r Arglwydd.
12 Offrymwch i'r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.
13 Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.
14 Ac os offrymi i'r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf.
15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw.